Proizvod vam ne odgovara? Nema veze! Proizvode možete vratiti do 30 dana
S poklon bonom ne možete pogriješiti. Za poklon bon primatelj može odabrati bilo što iz naše ponude.
Do 30 dana za povrat
Ar hyd y canrifoedd, bu'r gyfraith yn ysgogi, ysbrydoli a chynddeiriogi beirdd a llenorion Cymru. Dyma gyfrol arloesol sydd yn adrodd hanes yr ymateb llenyddol i syniadau, swyddogion a sefydliadau'r gyfraith. Ceir ynddi astudiaeth thematig a phanoramig sydd yn olrhain y gyfraith mewn llenyddiaeth Gymraeg o'r oesoedd canol cynnar hyd at ein dyddiau ni. Cawn foli a marwnadu, diolch a dychanu, chwerthin a chrio, oll yn tystio i bwysigrwydd y gyfraith mewn cymdeithas ac i swyddogaeth llên fel cyfrwng i fynegi barn ar gyfiawnder. Deuwn hefyd i ddeall priod le'r gyfraith i'n hunaniaeth genedlaethol ar hyd yr oesau, a hynny trwy gyfrwng crefft ac awen. Dyma'r tro cyntaf i astudiaeth gynhwysfawr o'r maes ymddangos, ac y mae'n torri tir newydd mewn hanesyddiaeth gyfreithiol Gymreig yn ogystal â chyfrannu'n bwysig i hanesyddiaeth lenyddol.
Dobar dan! Ja sam Libroamiko, vaš književni savjetnik.
Kako vam mogu pomoći?